Lleoliad: Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 12 Tachwedd 2020
Amser:
09.15 -
12.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6546
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Jack Sargeant AS (yn lle Dawn Bowden AS) Hefin David AS Suzy Davies AS Siân Gwenllian AS Laura Anne Jones AS |
Tystion: |
David Jones, Cymwysterau Cymru Philip Blaker, Cymwysterau Cymru Jo Richards, Cymwysterau Cymru Ian Morgan, CBAC Elaine Carlile, CBAC Louise Casella, Cadeirydd yr adolygiad annibynnol Guy Lacey, ColegauCymru Kay Martin, ColegauCymru Meinir Ebbsworth, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Mike Tate, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cllr Ian Roberts, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Arwyn Thomas, GwE |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Tanwen Summers (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Suzy Davies AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AS. Dirprwyodd Jack Sargeant AS ar ei rhan.
2 Sesiwn dystiolaeth ar effaith Covid-19 ar addysgu a dysgu o bell, ac ar arholiadau ac asesiadau gyda Chymwysterau Cymru a CBAC
2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Gymwysterau Cymru a CBAC.
3 Sesiwn dystiolaeth ar effaith Covid-19 ar addysgu a dysgu o bell, ac ar arholiadau ac asesiadau gyda Louise Casella
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Louise Casella.
4 Sesiwn dystiolaeth ar effaith Covid-19 ar addysgu a dysgu o bell, ac ar arholiadau ac asesiadau gyda chynrychiolwyr y sector addysg
4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan CLlLC, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg
Cymru, ColegauCymru a'r Consortia Addysg Rhanbarthol.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniwyd y
cynnig.
7 Effaith Covid-19 ar addysgu a dysgu o bell, ac ar arholiadau ac asesiadau - trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg ynglŷn ag effaith Covid-19 ar addysgu a dysgu o bell.
7.3 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a'r Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg ynglŷn â chefnogaeth i iechyd meddwl a llesiant dysgwyr.